Penderfynwyd sefydlu Clwb Cerdded Crwydro Caron yn ôl
yn 2003 pan ddaeth grŵp o gerddwyr a mynyddwyr brwdfrydig at
ei gilydd i sefydlu casgliad o 8 taith yn cwmpasu ardal Tregaron
a’r Cylch.
Cefnogwyd rhai o’r teithiau yma’n dda iawn ac aeth yr arweinyddion ar gwrs mynydda 6 diwrnod i ddatblygu a gwella eu sgiliau arwain. Trefnwyd yr hyfforddiant gan fudiad datblygu cymunedol Curiad Caron Cyf. Ac fe’i hariannwyd gan Gronfa Cymunedau’n Gyntaf. Yn ystod yr hyfforddiant yma , a thros beint neu ddau mewn tafarn ar lethrau Bannau Brycheiniog, penderfynwyd sefydlu clwb. Wrth gwrs wrth sefydlu clwb roedd rhai cael swyddogion, ac ar ôl perswâd a chocsio ac ambell i shandi gwlyb, penderfynwyd pwy oedd i wneud beth a phryd.
Yn ystod Nadolig 2003 trefnwyd taith swyddogol gyntaf y clwb o’r enw ‘Taith Taclo’r Twrci’ gyda hyd at 60 o bobl yn ymgasglu ar Sgwâr Tregaron i losgi’r calorïau ychwanegol hynny sydd yn bodoli dros ŵyl y Nadolig! Roedd hyn wrth gwrs yn gyfle i godi proffil y clwb yn syth a gwelwyd bryd hynny fod yna angen amlwg am glwb cerdded a bod yna sicrhad y byddai cefnogaeth dda o’r aelodau o leiaf.
Trefnwyd felly 14 o deithiau yn 2004 gyda’r rheiny yn amrywio o deithiau hamddenol lleol i rai tu allan i’r filltir sgwâr mewn ardaloedd fel Eryri , Sir Benfro ac wrth gwrs Bannau Brycheiniog!
Gyda’r clwb wedi’i sefydlu’n gadarn erbyn
diwedd 2004 braf oedd gweld bod 72 wedi ymaelodi gydag amrywiaeth o
oedrannau a phrofiad cerdded. Yr hyn a sylwyd hefyd gymaint
o’n haelodau nad oedd yn byw yn lleol, hynny yw, yn ymwelwyr
i’r ardal neu’n byw tu allan i gyffiniau Tregaron.
Felly yn sgîl hyn ,penodwyd arwyddair i’r clwb sef
‘Gwasanaethu’r gymuned leol- ateb anghenion
ymwelwyr.’
Wrth gwrs roedd y galw am sialensiau’n codi’n aml ac felly aethpwyd ati i drefnu teithiau i fyny’r Wyddfa gyda nifer o bobl yn cael y cyfle i gyrraedd y copa am y tro cyntaf erioed.
Roedd yr aelodau yn dechrau cael blas arni erbyn diwedd 2004 yn enwedig pan gynhaliwyd Cinio Blynyddol gynta’r clwb yng Ngwesty’r Talbot yn Nhregaron. Yno i’n hannerch oedd y Bonheddwr Caradog Jones. Dyn hynod o addfwyn, gonest a didrafferth. Ni allai’r rhai na adweinir Caradog ddeall sut y llwyddodd dyn mor addfwyn a hynaws gyrraedd copa ffyrnig ac anfaddeuol mynydd ucha’r byd , Everest. Ac yntau’n gynnyrch ardal Pontrhydfendigaid ,roedd Caradog yno i gefnogi gweithgareddau’r Clwb Cerdded Crwydro Caron ac yn ymfalchïo fod y clwb wedi holi iddo fod yn ei Llwydd Anrhydeddus.
Erbyn 2005 roedd gan y clwb 27ain o deithiau 89 o aelodau a 12 arweinydd. Roedd y clwb wedi derbyn cefnogaeth nifer o fusnesau’r ardal yn ogystal â chefnogaeth oddi wrth Y Gist Gymunedol Sportlot , Cymunedau’n Gyntaf a Chyngor Tref Tregaron. Cytunir, heblaw am y gefnogaeth hon, ni fyddai gweithgareddau’r clwb fod wedi ffynnu gymaint yn ei dyddiau cynnar ac am y gefnogaeth hon mae Clwb Cerdded Crwydro Caron yn ddiolchgar tu hwnt.
Gydag amserlen 2005 yn denu dwr o’r dannedd, ymunodd
casgliadau newydd o bobl â’r clwb wrth i newyddion
positif ‘grwydro’ ar hyd Ceredigion a thu hwnt.
Ac yn hyn o beth mae’r clwb erbyn hyn yn denu mwy a mwy i
gerdded. Mae’r clwb yn mentro yn ei weithgareddau ac yn
ymateb i sylwadau a syniadau’r aelodau. Mae’n fodlon
creu digwyddiadau diddorol megis Sialens Twm Siôn Cati, Taith
Glasurol Y Barcud Coch, Taith George Borrow a Thaith Y
Foneddiges- Yr Hafod. Mae teithiau tebyg i hyn yn gwneud y mwyaf
o’r adnoddau crai lleol sy’n bodoli sef treftadaeth,
diwylliant ac amgylchfyd.
Os hoffech ymuno a theithiau’r clwb cerdded yma danfonwch
e-bost at daf@cerddedtregaron.co.uk
neu rhowch olwg dros safwe’r clwb www.cerddedtregaron.co.uk
Mae croeso i chi ymuno â ni felly beth amdani, dewch i
gerdded dewch i grwydro â Chlwb Cerdded Crwydro Caron.