Hen dafarn y Porthmyn yw
Gwesty’r Talbot yn dyddio nôl i’r 13eg Ganrif ac
mae’r prennau derw, muriau cerrig a’r tanau agored yn
dwyn atgofion o’r gorffennol. Mae’n anghyffredin felly
i weld yn yr oes sydd ohoni fod y Gwesty’n parhau i fod mewn
perchenogaeth breifat ac mae ers 1983 wedi bod yn rhan annatod o
fywyd Graham Williams a Shan Rees, brawd a chwaer a Chymry
Cymraeg sydd yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau ac yn yr hanes sydd
yn rhan o’r adeilad. Mae gan y Talbot ddau far a bwyty sydd
yn medru cwrdd ag anghenion 50 o brydiau ar y tro ac ystafell
wledda sydd yn dal 140 o bobl gan gynnwys 15 ystafell wely. Mae
nifer o ddigwyddiadau erbyn hyn yn cael ei trefnu ymhob rhan
o’r gwesty arbennig yma. I’r cefn mae gardd gwrw lle
mae’r ystafell wledda hefyd yn agor allan iddo yn arbennig ar
gyfer eich priodas.
Saif Y Talbot ar y Sgwâr yn Nhregaron, Ceredigion- tref marchnad fechan sy’n enwog nid yn unig am y croeso gwresog a geir yno ond hefyd am fod yn fan geni Twm Siôn Cati (Robin Hood Cymru) a Henry Richard (un o sefydlwyr y Cenhedloedd Unedig).
Mae Tregaron ond 18 milltir o arfordir Ceredigion, ac mae’n lleoliad arbennig ar gyfer golygfeydd naturiol sy’n cynnwys Cors Caron, Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria. Mae gweithgareddau awyr agored yn rhan annatod o fwrlwm yr ardal ac mae cyfle i wylio adar, cerdded, pysgota, saethu a beicio.
Oherwydd ei leoliad, mae’r Talbot yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned. Mae nifer o uchafbwyntiau i’w gael yn ystod y flwyddyn gan gynnwys Ffair Garon (ffair draddodiadol a gynhelir ar Ddydd Llun y Sulgwyn), Gŵyl Trotian anhygoel (a gynhelir ar benwythnos y Banc yn Awst) a Phenwythnos y Porthmyn( gweithgaredd codi arian ym Mis Tachwedd).Mae’r Talbot yn enwog erbyn hyn am adloniant byw (a drefnir gan Gelf Cambria) gydag artistiaid fel Paul Young, Albert Lee, Chris Jagger , Meic Stephens, Heather Jones ac Elin Fflur (i enwi ond rhai) sydd wedi ymddangos yno yn y gorffennol.
Mae’r Talbot hefyd yn enwog gymaint am yr hen eliffant druan ag y mae am y croeso.
Ysgrifenna D C Rees yn ei lyfr The History of Tregaron:
“An Elephant. On the 10th July 1848, 'Batty’s Menagerie' visited Tregaron. One of the elephants quenched its thirst at Bronmwyn, which proved fatal owing to lead poisoning. It died in the Ivy Bush stable. Its burying place was in the field at the rear of the Talbot Hotel.”