Mae’r Talbot yn fan cychwyn
arbennig ar gyfer archwilio’r ardal leol. Wrth gwrs ar y
Sgwâr mae Canolfan Aur Rhiannon, Oriel Celf Cambria a
thafliad carreg i ffwrdd mae Canolfan Y Barcud ac Amgueddfa
Tregaron a Chors Caron, cors mawn uchaf Prydain.
Efallai i chi ddarllen rhai o lyfrau Sali Mali a Jac y Jwc pan yn yr ysgol ac erbyn hyn mae’r llyfrau wedi’u troi’n gyfres deledu lwyddiannus sy’n cael ei ffilmio ym Mhentre’ Bach nepell o’r Talbot (gerllaw, cafodd Shan a Graham eu magu yno).
Ym Mhontrhydfendigaid mae’r Mid Wales Activity Centre, Abary Ystrad Fflur a thu hwnt eto mae Rhaeadrau Pontarfynach a threfnu hanesyddol Aberystwyth i’r gogledd a Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin i’r de.
Soniwyd yn barod am weithgareddau awyr agored a gellir trefnu pysgota, cerdded a saethu o’r gwesty.
Mae gan CBT nifer o ardaloedd dan ei ofalaeth ar gyfer ymwelwyr.
Adweinir y Teifi fel un o brif afonydd Cymru lle ceir cyfleoedd i
brofi amgylchfyd hamddenol a thangnefeddus y dyffryn.
Mewn un diwrnod gellir pysgota am eog yn y bore ac am frithyll yn y
prynhawn yn un o, lynnoedd y bryniau. Ategwch at hyn y posibiliad o
ddychwelyd yn ôl i’r Talbot am bryd gyda’r hwyr
ac yn mentro allan am y trydydd tro at ddirgelwch y nos am y
gwangiad( sewin) sy’n cuddio ym mhyllau afonydd lleol.
Cynhelir yn flynyddol gystadleuaeth bysgota Ieuenctid o amgylch Tregaron dros benwythnos cyntaf Mis Mehefin. Daw pysgotwyr o bell ac agos i’r ornest yma.
Am fanylion pellach am bysgota yn ardal Tregaron cysyllter
â Cheryl Mawson
28 Maesyrawel Tregaron Ceredigion SY25 6HJ
cherylmawson@aol