Relax in a family run hotel in the heart of Wales
+44 (0)1974 298208

Cors Caron

Golygfa sy’n tynnu sylw’r llygaid yn lleol yw golygfa Cors Caron. Mae’n gors o fawn ac yn chwarae rhan bwysig ar dirlun yr ardal ta le y gwelir a ta pryd yr ymwelwyr â hi. Mae i’r gors erbyn hyn bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a chafodd cydnabyddiaeth yn 1955 pan benodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae erbyn hyn yn rhan o berchnogaeth y Cyngor Cefn Gwlad ac yn cael ei rheoli i ddiogelu a gwella amgylchedd a’r bywyd gwyllt sy’n bodoli yno.

Mae cyfle i ymweld â’r gors ar draws y tymhorau. Mae yna daith wedi’i baratoi sy’n addas ar gyfer yr anabl lle ceir cyfle i ymweld ag ardaloedd diddorol a diarffordd megis y gyforgors, lagwnau, prysgwydd a man gwylio adar a llecyn gwybodaeth. Mae cyfle arbennig i ymwelwyr i ddilyn yr hen reilffordd o’r maes parcio ger Maesllyn hyd at Hen Orsaf Ystrad Fflur. Gellir hefyd trefnu teithiau tywys am ffi fechan.

For more information visit Am fanylion pellach cysylltir â  www.ccw.gov.uk.

 
The Talbot Hotel       Tregaron       Ceredigion   SY25 6JL          T +44 (0)1974 298208      F +44 (0)1974 299059     E  info@talbothotel-tregaron.com