Relax in a family run hotel in the heart of Wales
+44 (0)1974 298208

Live Music

photo : billboardMae’r Talbot yn croesawi artistiaid lleol i berfformio yno. Trefnir perfformiadau o’r safon flaenaf yn y Talbot mewn cydweithrediad â Chelf Cambria.

Ers 2000 mae’r Talbot wedi bod yn lleoliad parhaol a chartref i LIVE AT THE TALBOT, rhaglen ar draws y flwyddyn o gerddoriaeth ‘roots’ sy’n cael ei hyrwyddo gan gorff celfyddyd wirfoddol leol ac elusen

gofrestredig CELF CAMBRIA ARTS. Cynhelir y rhain bob deufis, ac mae’n cynnwys erfformwyr teithiol o ar draws y byd, yn ymestyn o ganu gwerin, jazz, blues, roc a cherddoriaeth y byd.

Mae sawl perfformiwr enwog wedi troedio llwyfan y Talbot erbyn hyn gan gynnwys Albert Lee, Gary US Bonds, Gordon Haskell. Chip Taylor, Joseph Arthur, Los Pacaminos (gan gynnwys Paul Young), The Strawbs, Chris Jagger, Meic Stephens, Nizlopi, The Holmes Brothers, Hank Wangford, a King Pleasure & The Biscuit Boys. In 2004 rhyddhawyd gan Recordiau’r Barcud Coch goreuon o’r Talbot ar gyfer tymor 2003-2004, a gynhyrchwyd gan Martin Levan a enillodd wobr Grammy. Mae’r gwesty yn ymfalchïo yn ei pherthynas â rhaglen LIVE AT THE TALBOT ac mae’r miloedd sy’n ymweld yn flynyddol gan gynnwys y perfformwyr yn cyfaddef yn gyhoeddus taw’r Talbot yw ‘lleoliad ‘roots’ gorau Cymru.’

Am ragor o fanylion am gigiau’r gorffennol a’r dyfodol, gan gynnwys  adolygiadau a lluniau ymwelwch â safle Celf Cambria Arts www.cambriaarts.org.uk

 
The Talbot Hotel       Tregaron       Ceredigion   SY25 6JL          T +44 (0)1974 298208      F +44 (0)1974 299059     E  info@talbothotel-tregaron.com