Hanes Ffair Garon
Mae'n anodd credu, efallai, ond cynhaliwyd ffeiliau’n
debyg i Ffair Garon gyntaf mor bell yn ôl â
1292.Ceffylau oedd canolbwynt y ffeiriau cynnar, a braf yw gweld
fod
cariad Tregaron at geffylau wedi para hyd heddiw. Roedd y Ffair hefyd yn ddigwyddiad cymdeithasol mawr gyda thai y pentref yn edrych ar eu gorau wedi eu gwyngalchu a'u haddurno. Dechrau newydd oedd i groesawu'r gwanwyn ac i edrych ymlaen at y tywydd braf i ddod; rhaid cofio bod y ffeiri gwreiddiol yn cael eu cynnal ym mis Mawrth. Cyfle i gwrdd â hen ffrindiau ac i fwynhau hwyl yr ŵyl. Roedd cwrw yn gwerthu yn dda yn Nhregaron - ym 1901 gallai Ted Rowlands, perchennog y Railway Hotel, fforddio prynu ceffyl am gan sofren, £5,000 yn arian
heddiw! Daeth prynwyr o bell ac agos i brynu ceffylau yn
Nhregaron - o Fryste, Caerloyw a thros y dðr o Ostend. Bu nifer o geffylau
Tregaron yn tynnu cwch ar gamlesi Lloegr neu'n cario glo yng nghymoedd y de.
Ond nid ceffylau yn unig oedd yno; roedd y ffair yn para tri diwrnod gyda
cheffylau ar werth ar y diwrnod cyntaf, sanau a nwyddau ar yr ail, a moch ac ieir ar y trydydd. Cynhaliwyd y ffair ar barc Sunnyhill gan estyn allan i
Nant Ffin ar heol Bontrhydfendigaid. Fel sawl traddodiad yng nghefn gwlad, fe ddiflannodd y Ffair o'r calendr cymdeithasol, hynny yw tan 1996 pan atgyfodwyd ef gan Guriad Caron. Ers hynny, mae'n ddigwyddiad blynyddol.
Ac felly mae croeso cynnes i chwi fod yn bresennol ar Ŵyl Y Banc Sulgwyn Ffair Garon bob blwyddyn!
Erbyn hyn mae Ffair Garon yn ddigwyddiad sy’n dod â’r gymuned gyfan at ei gilydd. Mae’n cael ei threfnu gan wirfoddolwyr sy’n rhan o bwyllgor ac yn cael eu harwain gan gwmni Curiad Caron Cyf.
Mae’r Ffair yn ffenest siop ar gyfer arddangos cynnyrch a chrefftau’r ardal ynghyd a chyfle i fudiadau lleol i gwrdd â’r cyhoedd a marchnata ei gwasanaeth yn y gymuned a thu hwnt.
Yn ddiweddar mae’r ffair wedi’i gynnwys yn un o wyliau Prosiect Treftadaeth Tregaron sy’n anelu at ddenu ymwelwyr i’r ardal i weld adeiladau sydd wedi’i thrawsnewid ac sydd erbyn hyn yn adlewyrchu delwedd draddodiadol yr ardal yn sgîl grantiau treftadaeth.
Mae nifer o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r dydd ac mae rhywbeth at ddant pawb yno heb os nag oni bai.
© Robert Thomas updated by Dafydd Wyn Morgan
2006
© Robert Thomas gyda diweddariad gan Dafydd Wyn Morgan.
2006